Thursday, November 20, 2008

Dydd Mawrth cefais y cyfle i ymweld â charchar Pentonville i weld eu hadran iechyd, ac yn arbennig felly yr adran iechyd meddwl. Bum wrthi ers tro yn ymchwilio i amodau carchardai. Rhyw ddwy flynedd yn ôl cytunodd y Pwyllgor Materion Cymreig i’m cais i gynnal ymchwiliad cyflym i brofiadau carcharorion o Gymru. Bu’r ymchwiliad hwnnw yn anghyffredin o lwyddiannus gan arwain, ymysg pethau eraill, at gadarnhau dadl Elfyn Llwyd AS fod angen carchar yng ngogledd Cymru.Rwyf bellach yn gweithio gyda golwg at ofynion carchar newydd, pe byddai un yn dod i Gaernarfon. Ac mae cydnabod i mi sy’n weithiwr arbenigol iechyd meddwl ym Mhentonville wedi bod yn cynorthwyo drwy wneud arolwg o’r ddarpariaeth therapiwtig iechyd meddwl yn y carchardai sy’n gwasanaethu carcharorion o Gymru ar hyn o bryd. Prin bod rhaid dweud bod y gwasanaeth o dan bwysau eithriadol. A prin hefyd sydd rhaid i mi ddweud nad oes fawr ddim help ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. P’run bynnag, roedd ymweld a Phentonville yn agoriad llygaid. Mae’r lle yn gartef i 1250 o ddynion, a hynny ar safle eithriadol o gyfyng. Adeiladwyd adran iechyd newydd rhai blynyddoedd yn ôl ond eto, prin fod yr adnoddau yn ateb y galw. Yn gyffredinnol mae tua un o bob deg carcharor yn dioddef o anhwylder iechyd meddwl, a wyth o bod deg gyda rhyw fath o broblemau seiclegol neu emosiynol. Wrth gwrs mae’r profiad o fod dan glo yn dwyshau unrhyw broblem blaenorol. Dyna paham y bydd yn hynod o bwysig sefydlu cynllun dargyfeirio ar gyfer y carchar newydd. Byddai pobl sâl eu meddwl felly yn mynd yn syth o’r llys i’r ysbyty, hyn yn hytrach nac aros weithiau am dri mis yn y carchar cyn derbyn triniaeth. Mae safle Pentonville yn un cyfyng. Ond mae lle gwag arbennig ac anial, yn agos at y wal derfyn. A dyna oerodd fy ngwaed tra’n mynd heibio wrth ymadael. Oherwydd yno y claddwyd yr anffodusion hynny a ddienyddiwyd gynt yn y carchar. Ac yna arhosant am byth, o fewn y muriau, a hynny heb nac arwydd na chofeb i nodi’r man ble gorweddant.


Gall cwestiynnau bore Iau fod ychydig yn ysgafnach na rhai y dyddiau eraill. Yn aml mae stori fawr wleidyddol yr wythnos wedi hen basio, aelodau lluosog a llai diwyd y pleidiau mawr wedi ei heglu hi am adra, ac eisteddfa’r newyddiadurwyr, yn naturiol, yn gyfangwbl wag. (Wythnos dridiau unwaith eto felly bois?)Bore ’ma (Iau) roedd yna rhyw ’chydig o dynnu coes yn ystod Cwestiynnau Prifysgolion, yn bennaf ar draul yr is-weinidog newydd Sion Simon. Roedd o’n ymlafnio ei orau gyda’r dasg anghyfarwydd o ateb cwestiynnau yn hytrach na’u gofyn, ond yn amlwg hefyd yn nofio yn erbyn llif go gryf. Yna atebodd ei fos, yr Ysgrifennydd Gwladol gwestiwn drwy gydnabod, er fod prentisiaid yn amrywio’n arw o ran eu safon, roedd hi’n bwysig rhoi cyfle teg i bawb. Mae arnaf ofn fod hyn ond wedi rhoi esgus i blant drwg y gwrthbleidiau bwyntio’r bys at Seimon yr Anffodus gan weiddi chwerthin yn ein ffordd ffals arferol. Er yn aelod dros ganolbarth Lloegr, mae gan Sion Simon gysylltiadau â Chymru; roedd yr hen Mr Simon ei daid yn brifathro ar Ysgol Penlleiniau Pwllheli gynt.Yn anffodus iddo fo, doedd ’run o feibion na merched glew Llafur Cambria yno i gadw ei bart. Tynfa tren gynnar i’r hen wlad yn drech mae’n siwr.

Bu Llywydd Senedd Gwlad y Basg ar ymweliad â San Steffan dydd Mercher. Dynes stans gyda meddwl miniog yn fy marn i. Ond wir, ni allai yn ei byw a deall sut ar y ddaear, a ninnau wrthi yn cael cinio, y byddai unrhywun mor ddifeddwl a galw pleidlais, ac yn waeth na hynny os rhywbeth, galw pleidlais wrth i bawb ddewis eu pwdinau. Arferiad barbaraidd Eingl-Sacsonaidd dirmygus o fwyd da. Ond felly y bu. Cannodd y gloch a cododd hanner y cwmni a’i gwneud hi am y lobiau. Roeddwn yn meddwl mai ond yn iawn fyddai hi i mi fynd yn ôl at y Basgiaid rhyw ugain munud yn ddiweddarach ar ôl dwy bleidlais (a oedd yn ymylu ar y diystyr). A dyna ble roeddan nhw, yn chwarae efo’u pwdinau ac yn rhannu ambell i sylw efo un arall a ddewisodd dychwelyd ar ôl caledwaith enfawr pleidleisio i ordor. Rhywsut, pe byddwn yn cael fy atgyfodi, rwy’n credu mai am senedd waraidd Gwlad y Basg y byddwn yn mynd yn hytrach nac at fynwes Mam Democratiaeth.

No comments: