Thursday, October 30, 2008

Yr wythnos hon galwais ar y Canghellor Alistair Darling i dorri’r gyfradd Treth ar Werth ar atgyweirio tai o 17.5% i 5%. Mae rhesymau cryf o blaid gwneud hyn. Yn amlwg, byddai’n lleihau’r gost o drwsio tai sâl gan y byddai llafur a deunyddiau cymaint yn rhatach. Yn aml dyma’r unig ffordd i bobl ifainc gael troedle ar yr ysgol dai.

Byddai hefyd yn gymorth sylweddol i’r diwydiant adeiladu. Dydd Mawrth diwethaf clywsom am gwmni adeiladu arall yn y Gogledd Ddwyrain yn mynd i ddwylo’r derbynnydd gan beryglu 320 o swyddi.

Mae gennym yng Nghymru fwy o lawer o dai sâl eu cyflwr o gymharu a gwledydd eraill. Felly ein hangen ni ydy trwsio. A’n baich, yn anffodus ydy talu treth o 17.5% ar bob bricsen, pob hoelen a phob awr o lafur.

Yn Ne Nwyrain Lloegr mae’r llywodraeth yn bwriadu adeiladu cannoedd o filoedd o dai newydd. Prin bod rhaid i mi ddweud nad oes Treth ar Werth ar adeiladu o’r newydd.

O’r diwedd mae’r llywodraeth wedi cytuno i godi’r targed ar gyfer lleihau nwyon ty gwydr i 80% erbyn 2050, hyn i gymharu â’r 60% blaenorol. Chefais i erioed gynifer o lythyrau, cardiau post, e-byst ac ymweliadau â’m cymorthfa ar unrhyw bwnc arall, nid yn unig gan gefnogwyr yr ymgyrchoedd amgylcheddol arferol ond hefyd rhai Cymorth Cristnogol a nifer o fudiadau eraill.

Hefyd, yng Nghymru, mae cytundeb Cymru’n Un yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i leihau’r nwyon niweidiol o 3% pob blwyddyn o 2011 ymlaen. Ar ben hyn, dydd Mawrth cyhoeddwyd y bwriad o gynnwys nwyon o longau ac awyrennau yn y targed. Wythnos gwas newydd felly i Ed Miliband yr Ysgrifennydd Gwladol Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae traddodiad yn y Ty fod y sawl sy’n siarad wedi araith forwynol yn canmol ymdrech yr aelod newydd.* Fi siaradodd nesaf wedi araith gyntaf Ed Miliband yn 2005. Doedd dim anhawster canmol araith dda. Ond hefyd nodais (yn y ffordd Gymreig) pwy oedd o go iawn, sef mab i Ralph a brawd i David. Hawdd felly hefyd oedd darogan dyfodol llewyrchus iddo. Ond, och a gwae, ni feddyliais roi £5 arno yn y bwci. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae o’n aelod o’r Cabinet ac yn ysgrifennydd gwladol ar adran bwysig, newydd sbon. Ia, och a gwae.

( *Biti garw na ddaru’r AS Llafur o Gymru a ddilynodd araith forwynol Dai Davies AS annibynnol Blaenau Gwent lynu â’r traddodiad. ‘I will forgo that pleasure’ oedd ei eiriau di-ras wedi araith olynydd Nye Bevan, Michael Foot, Llew Smith a Peter Law.)

Thursday, October 23, 2008

Bu rhywfaint o storm dros y Sul ar gownt yr LCO ar dai. I’r newydd ddyfodiaid i’n plith, mae Legislative Competence Order yn trosglwyddo’r hawl i basio mesurau o San Steffan i’n Cynulliad. Hynny yw, yn weithredol, mae’n rhaid cael caniatâd Llundain cyn dechrau deddfu i Gymru.

Ar ba sail fyddai rhywun yn rhoi caniatâd o’r fath? Wel, hyd y gwelaf, wedi ystyried a ydy hi'n gyfansoddiadol briodol i wneud hynny e.e. ydy’r bwriad o fewn maes llafur y Cynulliad, addysg, iechyd, yr economi ac ati.

Ond heblaw am hynny, pan gyflwynwyd yr LCO cyntaf dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol y byddai’n rhesymol rhoi rhywfaint o wybodaeth o fwriadau cynnar y Cynulliad. Yn ymarferol ni ellid rhoi mwy na hynny gan fod y trosglwyddiad yn un parhaol.

Efallai fod hyn yn edrych fel cyfaddawd ymarferol dros dro hyd nes y byddwn yn cael hawl deddfu llawn. Ond y gwyn o du Caerdydd yw fod San Steffan bellach yn mynnu gormod o hawl manylu, yn cesio meicro-reoli (term sy’n briodol o hyll).

Yr enw Cymraeg ar LCO mae’n debyg ydy Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Mae llond ceg fel hyn ohono’i hun yn ddigon i argyhoeddi rhywun nad ydy’r broses yn un ddymunol na chwaith yn gynaladwy.

Clywir llawer o falu awyr a gwatwar ar draws lawr y Ty, yn arbennig felly adeg holi’r Prif Weinidog. Weithiau bydd y sylwadau yn amserol, a hyd yn oed yn glyfar (‘Roubles’ oedd y gri ddoe pob tro y daeth Cameron at y bwrdd i gwyno am y ddyled ‘genedlaethol’).

Ond ambell dro does dim i guro’r brwnt a’r amlwg. Felly pan gododd Nick Clegg i holi Brown, yn y bwlch bach tawel hwnnw rhwng i’r Llefarydd ei alw ac iddo yntau agor ei geg fe waeddodd rhyw wag o’r ochr Llafur ‘Who’s he then?’

Boddwyd geiriau arweinydd y Rhyddfrydwyr gan chwerthin, rhywfaint ohono ni allwn ond sylwi o’i rengoedd ei hun.

Byddwch wedi gweld fod yr Arglwydd (sic) Mandelson bellach wedi ymuno a’r caethweision yn yr Oruchaf Dy. Rhoddod hyn gyfle i’r hacs llai galluog ail-adrodd stori amdano a glywyd eisioes hynd at syrffed. ( Mandelson yn prynu chips ar un o’i ymweliadau anfynych a’i etholaeth ‘wp north’. Gan gyfeirio at y pys slwts llachar gwyrdd gofynodd am ddogn o’r ‘gwacamole’. Ia. Doniol iawn.)

P’run bynnag am hynny cefais innau eiliad mandelsonaidd fy hun ddydd Sul.

Roeddwn yn teithio i Ddulyn ar gyfer cyfarfod o’r Pwygllgor Dethol Materion Cymreig. Bu Manchester United yn chwarae gartref ac roedd ystafell aros y maes awyr yn llawn o gefnogwyr Gwyddelig swnllyd a hapus. Wedi rhai oriau o ddisgwyl diflas eisteddodd rhywun gyferbyn â mi ac agor cylchgrawn. Edrychais ar y clawr a gweld ‘The Ring’ mewn llythrennau bras. Dyna ddiddorol meddyliais, dilynwr opera. Yna edrychais eto a gweld y dwylo fel rhawiau, y trwyn llydan a hwnnw wedi torri, a breichiau ac ysgwyddau cyhyrog un o garedigion y sgwar bocsio.

Thursday, October 9, 2008

Y Tŷ Mawr o'r Tu Mewn*

Treuliais y diwrnodiau cyntaf yma yn ôl yn San Steffan yn bod yn ofnadwy o neis yn llongyfarch amryfal ASau Llafur. A does dim rhyfedd debyg nac oes, gan fy mod yn hen foi trybeilig o glen.

Ond ‘digwyddiadau’ fel ’tae, nid natur yn unig, sydd i gyfri am ymddygiad braidd yn anghyffredin ar goridorau’r Palas. A beth yw’r ‘digwyddiadau’ eithriadol yma tybed? Wel llun newydd y llywodraeth wrth gwrs, a dyrchafiad nifer o Gymru Llafurol i’w hiselfannau.

’Runig beth, a sylwoch chi fel finnau fod y dyrchafedig rai, Wayne a Chris, Mark ac Ian yn tueddu i rannu’r un weledigaeth o ran datganoli a’r Ysgrifennydd Gwladol Paul Murphy a’i gyfaill mynwesol, y cyn Is-ysgrifennydd Gwladol Don Touhig?

Cyd ddigwyddiad llwyr hefyd yw fod y datganolglen Huw Iranca wedi ei symud wysg ei ochr o Swyddfa Cymru i DEFRA. Does gan DEFRA na’i gweinidogion fawr o ddim i’w wneud yn uniongyrchol hefo gwarchod a hybu amaeth yng Nghymru fach bellach. Elin Jôs sydd bia’r clod hwnnw.

Felly, ai lloches cyn storom neu sgwd o’r neilltu ydi hyn i Huw tybed? Pwy a wyr. Ond gwn beth oedd barn Cledwyn Hughes pan gafodd o ei symud i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Amaeth, gan wneud lle cyfleus i’r gwenwynig George Thomas fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar drothwy’r Arwisgiad.


Ysgrifennodd y Gwir Anrhydeddus Peter Hain Aelod Seneddol Castell Nedd ddoe at Gomisiwn Syr Emyr Jones Parry, a bu cystal a rhannu ei farn ar ddyfodol datganoli gyda llu o feidrolion eraill, gan gynnwys eich gohebydd distadl.

Mae llawer i gnoi cil arno yn y llythyr, a megis dechrau a wnaf yma. Noda Mr Hain ei gefnogaeth oesol a diffuant i ddatganoli. Ond hefyd dywed mai colli fyddai’r hanes pe byddem yn cynnal refferendwm ar ymestyn grym y Cynulliad cyn 2011. Meddai,

'Without a significant shift in public opinion, it is very clear to me that a referendum before 2011 would be lost. '

Dywed hefyd fod mwyafrif llethol o aelodau Llafur a phleidleiswyr Llafur yn erbyn yr hyn a alwa yn refferendwn cynnar.

Rhydd i bawb ei farn. Ond wn i ddim sut y gall Mr Hain fod mor hynod o bendant am rhywbeth sydd efallai tair blynedd hir i ffwrdd, a hynny pan fo’r arolygon barn ar hyn o bryd yn dangos mwyafrif bach o blaid.

Mae proffwydi’r polau piniwn fel arfer yn nodi maint a lleoliad eu sampl. Mwy na hynny, byddant yn cydnabod mai pôl ydi pôl, ond bod pleidlais yn bleidlais. Ond tydi Mr Hain ddim yn datgelu ei ffynhonnellau, na chwaith yn trafod sut i arwain na hyd yn oed ennill yr ymgyrch o blaid.

Yn hytrach a ymlaen, yn annoeth a phleidiol yn fy marn i, i gollfarnu y rhai

‘…who wish to contrive political ambushes for partisan purposes against Welsh Labour - and there has been evidence of such manoeuvres from Plaid and Tory politicians alike…’

Mae’r llythyr yn fwy na datganiad syml o farn. Mae’n siwr o godi muriau, yn siwr o ddylanwadu ar y ddadl, yn siwr o galonogi’r rhai hynny sydd yn erbyn pwerau llawn i’n Cynulliad a digalonni pawb arall. Mae hyn heb son am geisio codi crachen rhaniadau gwleidyddol posibl rhwng partneriaid Llywodraeth Cymru’n Un.

Mae i gyn Ysgrifennyddion Gwladol eu lle, yn rhannu ffrwyth eu profiad a rhoi arweiniad. A dyna fy mhryder am y llythyr. Gallasai Peter Hain fod â lle allweddol ac anrhydeddus yn yr ymgyrch o blaid, fel yn wir y bu ganddo yn 1997. Gallai arwain. Ond ysywaeth rwy’n ofni ei fod o wedi sicrhau un o ddau le arall iddo ei hun, naill ai ar ochr y gwrthwynebwyr, neu, yn waeth yn y pen draw, ar ymylon y ddadl.


* Enw fy ngholofn gynt yr yr ymadawedig Herald Cymraeg. Tudur, golygydd rhadlon yr Herald a fathodd y teitl. Cofion gorau ato.