Thursday, February 26, 2009

Diwrnod trist heddiw (Mercher) wrth i’r newydd ein cyrraedd fod mab chwech oed David Cameron wedi marw. Bu’r bychan yn dioddef o barlys yr ymenydd ers ei eni.

Cafwyd teyrngedau byr am hanner dydd, adeg holi’r Prif Weinidog, ac yna, yn briodol iawn, diddymwyd gweddill y sesiwn. Dyma’r tro cyntaf i mi weld hyn yn digwydd.

Gobeithio y bydd Mr Cameron a’i deulu rwan yn cael llonydd gan y wasg. Mae gan hyd yn oed y gwleidyddion mwyaf amlwg hawl i dawelwch a phreifatrwydd ar adeg fel hyn.

Mae tri PPS arall wedi ymddiswyddo heddiw mewn gwrthwynebiad i gynlluniau Gordon Brown i breifateiddio rhan sylweddol o’r Post Brenhinol.

Gwaith PPS ydy cynorthwyo ei gweinidog, fel rhyw brentis bach digyflog. Er engraifft, mewn pwyllgor bydd y PPS yn eistedd y tu ôl i’w gweinidog, yn cymryd negeseuon gan y gweision sifil sy’n eistedd y tu allan i’r cylch cyfrin, ac yna eu pasio ymlaen i’w meistres. Wedyn pan fydd ei gweinidog o gwmpas y Ty, yn aml bydd y PPS yn cerdded rhyw hanner cam y tu ôl iddi. Drwy hyn, fel criw, fe gafodd y PPSau y llys enw anffodus bag carriers.

Wedi dweud hynny, bod yn PPS ydy’r cam cyntaf ar yr ysgol seimlyd. A tydi ymddiswyddo chwaith ddim yn gam ffôl, yn arbennig pan fo (mwy na) sibrydion am ddyfodol y gweinidog, neu hyd yn oed dyfodol y Prif Weinidog.

Dychmygwch swyddfa’r Prif Weinidog newydd wedi brwydr digon gwaedlyd i ddisodli ei rhagflaenydd sarug. Ar ôl hir drafod pleserus wrth lenwi’r prif swyddi mae hi’n taro ei llygaid dros swydd y Is-weinidog Dros Faterion Gweinyddol.

Pwy i’w dewis tybed? O ia, beth ydy enw’r PPS yna a ymddiswyddodd dros fater holl bwysig gosod y contract ar gyfer cyflweni pinnau papur i’r gwasanaeth sifil. A dyna ni, mi rwyt ti YN Y LLYWODRAETH!

Mae preifateiddio’r Post yn fater llawer mwy difrifol wrth gwrs. Felly, a fyddwn yn gweld PPS o Gymru yn ymuno â’r tri’r gwron? (am resymau cwbl anrhydeddus wrth gwrs).

Rwy’n Drysorydd ar y Grwp Aml-bleidiol Dros Reilffyrdd yng Nghymru. Tydi hi ddim yn job drom gan nad oes gennym r’un ddimau i wario! (Pe byddem yn grwp dros fancwyr ffaeledig mae’n siwr mai stori fel arall fyddai hi.)

P’run bynnag, rydym yn cynnal cyfarfodydd diddorol iawn. Er engraifft, dydd Mawrth roedd Yr Arglwydd Adonis, gweinidog o’r Adran Drafnidiaeth ger ein bron a hefyd prif swyddogion y cwmniau tren.

Mae’r gwasanaethau oddimewn i Gymru wedi gwella’n sylweddol yn ddiweddar o ganlyniad i waith da Llywodraeth Caerdydd. Hefyd bu gwelliant yn y gwasanaeth o Gymru i Loegr a thu hwnt, yn arbennig wedi cwblhau’r gwaith ar ‘brif lein y gorllewin’ (gorllewin Lloegr a’r Alban hynny yw, o Lundain i Glasgow).

Ac mae lle i obeithio y bydd pethau yn gwella eto gyda dyfodiad llinnell gyflym iawn (LlGI?) tebyg i TGV Ffrainc dros y ddegawd nesaf (er o Lundain i Birmingham [lle arall?] fydd hon yn rhedeg ar y cychwyn)

Un gwyn go fawr fodd bynnag. Yn ôl yr Arglwydd, does dim bwriad i drydaneiddio y prif linellau oddimewn i Gymru, ar hyd arfordir y gogledd ac o Abertawe i’r ffin. Rwy’n deall bydd y lein o Lundain i Fryste yn cael ei huwchraddio a’i thrydaneiddio. Ond bydd y gwirfrau newydd yn troi yn bendant i’r chwith wrth geg dwyreiniol twnel yr Hafren.

Mae hyn yn fy atgoffa o rigwm Harri Webb i’r bont gyntaf dros yr Hafren yn y chwedegau.

Two lands at last united across the waters wide,
And all the tolls collected on the English side.

Ar un wedd does fawr wedi newid dros ddeugain mlynedd nac oes.

Thursday, February 12, 2009

Atgyfodiad

Byddwch chi flogddarllenwyr Cymru oll yn gwybod debyg mai e-ddigwyddiad mawr heddiw ydy …. fod y Frenhines Elisabeth yn atgyfodi ei safwe. Wn i ddim a’i bwriad yn hyn o beth oedd codi cywilydd arnaf am fy nistawrwydd diweddar. Ond ta waeth, dyma finnau hefyd felly yn ail ddechrau blogio ar ôl rhai wythnosau o fudandod (rhywfaint ohono yn orfodol).

Digwyddiad mwyaf arwyddocaol i mi yn yr wythnosau diwethaf fu cyhoeddi bwriad y Gweinidog Carchardai i wneud cais i godi carchar rhwng Caernarfon a’r Felinheli.
I mi mae hyn yn un penllanw bach i dair blynedd o waith go ddygn (llawer ohono wrth reswm yn y dirgel). Ac i mi mae’r budd a allai ddod i’r etholaeth o ran buddsoddiad , swyddi ac amodau tecach i garcharorion yn amlwg iawn.

Ond wrth reswm hefyd mae rhai pobl lleol yn amheus neu yn wrthwynebus. Mae gennym gyfle rwan i gynnal trafodaeth leol wrth i’r weinyddiaeth baratoi cais cynllunio. Yn fy marn i mae hyn yn gwbl hanfodol, er sicrhau undod barn lleol, ac felly llwyddiant y fenter, lleddfu pryderon, neu ddarganfod, yn groes i bob golwg, bod rhesymau cryf dros beidio bwrw ymlaen.

Pan yn fyfyriwr, amser maith yn ôl, byddwn yn gwennu wrth glywed rhai cymdeithasegwyr bryd hynny yn tynnu sylw at y tebygrwydd rhwng diwylliant mewnol macho yr heddlu a meddylfryd arch droseddwyr megis lladron arfog. Dros y blynyddoedd bu’r heddlu’n ceiso newid (ac yn llwyddo i raddau hefyd, fel y gwelwn o agwedd Heddlu Gogledd Cymru bellach tuag at y Gymraeg).

Ond i lenwi’r bwlch, fel tae, dyma griw arall o ddynion canol oed tindrwm yn camu ymlaen. Ac fel lladron arfog maent hwythau’n falch o wagio drorau’r banciau yn y dirgel a hynny hyd y gwelaf heb fawr o gywilydd nac edifarhad. Ac mae eu gwerthiedd yn rhai digon ychafi – This is not a takeover, it’s a drive-by shooting.

Qnd mae gwahaniaeth rhwng lladron arfog a’r criw newydd yma. Pen draw gyfra sawl un o’r frawdoliaeth gynta yw cyfnodau hir ym Mhentonfill, y Sgrybs neu eraill o balasau’r Frenhines. A’r grwp arall? Wel, hyd y gwelaf, gyrfa lewyrchus yn y Filltir Sgwar, dyrchafiad yn Farchog, cyfarfodydd efallai gorfod ymddiswyddo, ond hynny gyda swp go lew arall o arian y cyhoedd o dan y gesail.

Thursday, November 27, 2008

Byddwch yn gwybod fy mod wedi bod yn pwyso am doriad yn y gyfradd Treth ar Werth ers tro. Ac yn wir, roedd Alistair Darling cystal a chyflwyno’r union beth yn y gyllideb echdoe. Ond yn anffodus toriad ar draws y bwrdd o 2.5% sydd ganddo dan sylw. Felly bydd pris rhywbeth sy’n costio £235, dywedwch beic at y ’Dolig yn gostwng o £5. Prin fod hyn am gymell unrhywun i ruthro allan i brynu a phrynu. A p’run bynnag am hynny, mae’n debyg mai hyrwyddo mewnforion fydd un o ganlyniadau’r toriad arbennig yma.Gwell o lawer fyddai bod wedi targedu’r toriad TAW at ddiwydiannau sydd yn cyflogi yn helaeth yma, hyn yn hytrach na chefnogi swyddi cynhyrchu tramor.Felly dylid fod wedi torri’r TAW ar drwsio tai ac ar wasaethau gofal i 5%. Byddai hyn wedi hyrwyddo cyflogaeth a hefyd yn arwain at werth cymdeithasol – tai i bobl fyw ynddynt a gofal o well safon.Ddoe, fe gyhoeddodd yr Undeb Ewropeaidd argymhellion ar gyfer gostwng TAW fel rhan o raglen i orchfygu’r dirwasgiad. Rwan, dywedwch i mi, ai gostyngiad ar draws y bwrdd o 2.5% yntau targedu toriadau dyfnach i lawr i 5% ar rhai diwydiannau allweddol oedd eu dewis hwy?


Mae’n rhyfedd gweld Gordon Brown yn gwennu cymaint. Yn wir, y gwaethaf byd y mae’r newyddion am y dirwasgiad y mwya’n byd mae o’n ymddangos fel ei fod yn mwynhau bywyd. Yr esboniad amlwg yw ei fod yn credu bod y Toriaid y gwneud llanastr ohoni. Ond hyd yn oed pan ddatgelwyd fod y llywodraeth wedi ystyried codi TAW i 20% (trychineb o ran cyflwyniad y wasg i’r llywodraeth) roedd Mr B yn wen o glust i glust. Mae esboniad symlach. Mae pobl sydd a thueddiad tuag at fod yn flin ac yn isel eu hysbryd yn sbriwsio a chlenio trwyddynt pan fydd ganddynt rywbeth i’w wneud. Wedi dweud hynny, fyddwn i ddim yn argymell yr amgylchiadau ’chydig yn anffodus ar hyn o bryd ond fel rhan o raglen therapiwtig i’r Prif Weinidog.


Ystyriwch:- Obama yn cymryd at ei swydd ac yn mwynhau mis mel. Yr pelydrau braf yn tywynnu ar draws yr Iwerydd. Y taliadau ychwanegol a’r toriadau treth yn eu lle.Y codiadau treth yn bell i ffwrdd. Y Toriaid yn dal i freuddweidio am ddychweliad Thatcher tra bo’r ‘dirwasgaid yn rhedeg ei gwrs’. Y gwanwyn yn y tir…. Tybed a fyddai’n syniad rhoi £5 i lawr efo’r bwci ar etholiad cyffredinol ar ddiwrnod olaf Ebrill 2009.

Thursday, November 20, 2008

Dydd Mawrth cefais y cyfle i ymweld â charchar Pentonville i weld eu hadran iechyd, ac yn arbennig felly yr adran iechyd meddwl. Bum wrthi ers tro yn ymchwilio i amodau carchardai. Rhyw ddwy flynedd yn ôl cytunodd y Pwyllgor Materion Cymreig i’m cais i gynnal ymchwiliad cyflym i brofiadau carcharorion o Gymru. Bu’r ymchwiliad hwnnw yn anghyffredin o lwyddiannus gan arwain, ymysg pethau eraill, at gadarnhau dadl Elfyn Llwyd AS fod angen carchar yng ngogledd Cymru.Rwyf bellach yn gweithio gyda golwg at ofynion carchar newydd, pe byddai un yn dod i Gaernarfon. Ac mae cydnabod i mi sy’n weithiwr arbenigol iechyd meddwl ym Mhentonville wedi bod yn cynorthwyo drwy wneud arolwg o’r ddarpariaeth therapiwtig iechyd meddwl yn y carchardai sy’n gwasanaethu carcharorion o Gymru ar hyn o bryd. Prin bod rhaid dweud bod y gwasanaeth o dan bwysau eithriadol. A prin hefyd sydd rhaid i mi ddweud nad oes fawr ddim help ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. P’run bynnag, roedd ymweld a Phentonville yn agoriad llygaid. Mae’r lle yn gartef i 1250 o ddynion, a hynny ar safle eithriadol o gyfyng. Adeiladwyd adran iechyd newydd rhai blynyddoedd yn ôl ond eto, prin fod yr adnoddau yn ateb y galw. Yn gyffredinnol mae tua un o bob deg carcharor yn dioddef o anhwylder iechyd meddwl, a wyth o bod deg gyda rhyw fath o broblemau seiclegol neu emosiynol. Wrth gwrs mae’r profiad o fod dan glo yn dwyshau unrhyw broblem blaenorol. Dyna paham y bydd yn hynod o bwysig sefydlu cynllun dargyfeirio ar gyfer y carchar newydd. Byddai pobl sâl eu meddwl felly yn mynd yn syth o’r llys i’r ysbyty, hyn yn hytrach nac aros weithiau am dri mis yn y carchar cyn derbyn triniaeth. Mae safle Pentonville yn un cyfyng. Ond mae lle gwag arbennig ac anial, yn agos at y wal derfyn. A dyna oerodd fy ngwaed tra’n mynd heibio wrth ymadael. Oherwydd yno y claddwyd yr anffodusion hynny a ddienyddiwyd gynt yn y carchar. Ac yna arhosant am byth, o fewn y muriau, a hynny heb nac arwydd na chofeb i nodi’r man ble gorweddant.


Gall cwestiynnau bore Iau fod ychydig yn ysgafnach na rhai y dyddiau eraill. Yn aml mae stori fawr wleidyddol yr wythnos wedi hen basio, aelodau lluosog a llai diwyd y pleidiau mawr wedi ei heglu hi am adra, ac eisteddfa’r newyddiadurwyr, yn naturiol, yn gyfangwbl wag. (Wythnos dridiau unwaith eto felly bois?)Bore ’ma (Iau) roedd yna rhyw ’chydig o dynnu coes yn ystod Cwestiynnau Prifysgolion, yn bennaf ar draul yr is-weinidog newydd Sion Simon. Roedd o’n ymlafnio ei orau gyda’r dasg anghyfarwydd o ateb cwestiynnau yn hytrach na’u gofyn, ond yn amlwg hefyd yn nofio yn erbyn llif go gryf. Yna atebodd ei fos, yr Ysgrifennydd Gwladol gwestiwn drwy gydnabod, er fod prentisiaid yn amrywio’n arw o ran eu safon, roedd hi’n bwysig rhoi cyfle teg i bawb. Mae arnaf ofn fod hyn ond wedi rhoi esgus i blant drwg y gwrthbleidiau bwyntio’r bys at Seimon yr Anffodus gan weiddi chwerthin yn ein ffordd ffals arferol. Er yn aelod dros ganolbarth Lloegr, mae gan Sion Simon gysylltiadau â Chymru; roedd yr hen Mr Simon ei daid yn brifathro ar Ysgol Penlleiniau Pwllheli gynt.Yn anffodus iddo fo, doedd ’run o feibion na merched glew Llafur Cambria yno i gadw ei bart. Tynfa tren gynnar i’r hen wlad yn drech mae’n siwr.

Bu Llywydd Senedd Gwlad y Basg ar ymweliad â San Steffan dydd Mercher. Dynes stans gyda meddwl miniog yn fy marn i. Ond wir, ni allai yn ei byw a deall sut ar y ddaear, a ninnau wrthi yn cael cinio, y byddai unrhywun mor ddifeddwl a galw pleidlais, ac yn waeth na hynny os rhywbeth, galw pleidlais wrth i bawb ddewis eu pwdinau. Arferiad barbaraidd Eingl-Sacsonaidd dirmygus o fwyd da. Ond felly y bu. Cannodd y gloch a cododd hanner y cwmni a’i gwneud hi am y lobiau. Roeddwn yn meddwl mai ond yn iawn fyddai hi i mi fynd yn ôl at y Basgiaid rhyw ugain munud yn ddiweddarach ar ôl dwy bleidlais (a oedd yn ymylu ar y diystyr). A dyna ble roeddan nhw, yn chwarae efo’u pwdinau ac yn rhannu ambell i sylw efo un arall a ddewisodd dychwelyd ar ôl caledwaith enfawr pleidleisio i ordor. Rhywsut, pe byddwn yn cael fy atgyfodi, rwy’n credu mai am senedd waraidd Gwlad y Basg y byddwn yn mynd yn hytrach nac at fynwes Mam Democratiaeth.

Thursday, November 13, 2008

Cyhoeddodd y llywodraeth o’r diwedd fod y Swyddfa Post i gael yr hawl i barhau gyda’r cytundeb ‘Post Office Card Account’. I’r anghyfarwydd, mae’r cerdyn bach defnyddiol yma yn caniatau i bobl godi eu pensiwn ac ati yn y post, hyn yn hytrach na’r hen drefn o gyflwyno llyfr pensiwn.

Bu’r gweinidog yn tindroi dros y penderfyniad am fisoedd lawer. Bu ymgyrch sylweddol iawn o blaid y post, a ddenodd cefnogaeth gan filiynnau o bobl ar draws Prydain gyfan a chan aelodau seneddol o bob plaid.

Does ryfedd felly fod y llywodraeth wedi ildio yn y diwedd. Ond gresyn na fyddent wedi gwneud hynny yn gynt, gan rwy’n siwr fod yr ansicrwydd garw wedi cyfrannu at berswadio nifer o is-bostfeistri i roi'r gorau iddi. Fel mae hi mae 11 o is-swyddfeydd post yn cau yn fy etholaeth i yn unig. Da o beth bellach fyddai i’r Swyddfa Bost ail ystyried y rhaglen gau.


Dydd Mercher gwelwyd gwrthdaro hyll iawn rhwng Brown a Cameron ynghylch y babi a laddwyd gan ei fam a’i chariad, a phwy oedd mewn gwirionedd ar fai. Mae perfformiadau PMQs yn ddiweddar yn aml yn awgrymu yn gryf fod casineb go iawn rhwng y ddau arweinydd. Digon teg. Ond roedd eu gweld yn defnyddio trychineb o’r fath at bwrpas ymryson gwleidyddol yn codi cyfog arnaf.


Wrth gwrs onid ydym i gyd wrth eu boddau fod Mr Obama wedi ei ethol? Ac onid oeddan ni i gyd yn ei gefnogi i’r carn o’r cychwyn cyntaf?

Wel, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad dywedodd aelod Ceidwadol sydd â chysylltiad agos â Chymru wrthyf, nid yn unig fod Obama am lyfu’r llwch ond hefyd y byddai’n drychineb llwyr pe na byddai llaw sicr McCain ar y llyw am y bedair blynedd nesaf. A mwy na hynny roedd yn bendant fod Mrs Palin yn athrylith gwleidyddol ac yn gwbl abl i gymryd y prif le pe byddai’r hen elyn yn dwyn Mr McCain i ffwrdd. Wnai i ddim sylw am ei weledigaeth na’i gysondeb gwleidyddol, am heddiw o leiaf.

Mae cyn aelod o’r Cabinet o’m cydnabod yn gyson yn gweld yn gliriach na’r rhan fwyaf o’i phlaid, os weithiau braidd yn hwyr o gymharu â’r blaid genedlaethol. A’i sylw hi wrthyf am yr holl fusnes? ‘I’m glad he’s won but bound to disappoint.’

Thursday, November 6, 2008

Dydd Mawrth daeth y Mesur Cyflogaeth diweddaraf i ben ei daith gyda dadl ‘adrodd yn ol’ o’r pwyllgor a fu’n ei ystyried yn fanwl, ac yna dadl ‘trydydd darlleniad’.

Bydd dadl trydydd darlleniad fel arfer yn fyr, awr neu lai, a’r bwriad ydy rhoi cyfle i’r prif lefarwyr grynhoi eu dadleuon ac ateb pwyntiau cyffredinnol cyn y bleidlais derfynnol. Ond yn ystod y sesiwn adrodd yn ol gellir cyflwyno cymalau newydd a gwelliannau pellach.

Roedd criw o aelodau, yn bennaf o’r Campaign Group (criw croes y Blaid Lafur) wedi cyflwyno nifer sylweddol o gymalau newydd a’r Toriaid hefyd wedi cynnig ychydig o welliannau.

O ran y Toriaid roeddant eisiau cyfyngu ar allu undebau llafur i dorri allan aelodau o bleidiau gwleidyddol annerbynniol, hynny yw y BNP. Felly roedd eu gwelliant yn cynnig y byddai’n rhaid i rywun fod yn aelod o blaid o’r fath am flwyddyn gron cyn y gellid gweithredu yn eu herbyn. Yn amlwg gallai hyn olygu fod aelodau BNP yn medru bod yn aelodau hefyd o undeb llafur am fisoedd lawer yn lledaenu gwenwyn cyn eu diarddel. Rwy’n falch dweud y trechwyd y gwelliant yma.

Yn anffodus dyna hefyd oedd tynged yr unig gymal newydd a aeth i bleidlais. Roedd hwn yn mynnu bod cyflogwr yn rhoi manylion y gweithwyr i undeb llafur cyn pleidlais ar streic, hyn er mwyn hwyluso’r broses o gynnal balot. Wn i ddim paham fod y llywodraeth yn erbyn darpariaeth sydd yn edrych i mi ond yn synnwyr cyffredin. Ond felly y buodd hi gyda ffyddloniaid Llafur yn uno â’r Ceidwadwyr i drechu’r cymal o fwyafrif mawr iawn.

Cefais innau y cyfle i wneud araith fer yn olrhain hanes streic Friction Dynamex ac esbonio rhywfaint am ystrywiau’r cyflogwr. Roeddwn wedi gobeithio y byddai ein aelodau Llafur lleol (Ynys Mon a Conwy) felly yn cefnogi’r cymal newydd, ond nid felly y bu. Prin bod rhaid dweud fod ASau Plaid Cymru wedi ymuno a’r ychydig rai a oedd am geisio sicrhau pleidlais streic ar yr amodau tecaf posibl.


Roedd croeso cynnes heddiw ( dydd Iau ) i Huw Iranca Davies AS yn ei swydd newydd yn DEFRA. Cefais innau’r cyfle i’w holi ynglyn â’r ddiffygion yn y gwasanaeth band eang mewn ardaloedd gwledig.

Yn anffodus fe ddechreuodd y gweinidog drwy gyfeirio at ‘not spots’. Dyma’r term a ddefnyddir gan BT ac eraill am ardaloedd ble nad oes gwasanaeth e.e.

Fi ‘Paham nad oes gwasanaeth band eang yn Rhiwlas?’

Nhw ‘O …wel … ‘not spot’ ydy o.’

Tydi hyn yn esbonio dim, yn esgusodi dim nac yn gaddo dim wrth gwrs. Ond mae o’n ateb bach handi mewn cyfyngder ’ntydi. Rwy’n falch fod y gweinidog newydd, ar fy nghais i, wedi gaddo ei ddileu o’i eirfa. Ond wn i ddim a gawn ni wasanaeth band eang fymrun yn gynt er hynny cofiwch.


Nes ymlaen, yn y sesiwn trafod busnes y Ty at yr wythnos nesaf, gofynnais i Harriett Harman Arweinydd y Ty am ddadl ar y gyfradd TAW ar drwsio tai. Cwestiwn digon rhesymol. Ond ateb Hattie oedd dweud mai cyfrifoldeb y Canghellor ydy TAW.

Rhywsut, rhywfodd, wn i ddim sut, roeddwn i wedi dyfalu hynny eisoes. Mae’n hysbys mai gwaith Arweinydd y Ty ar brydiau ydy osgoi rhoi ateb. Er hynny byddwn wedi disgwyl rhyw ychydig mwy o greadigrwydd ganddi.

Thursday, October 30, 2008

Yr wythnos hon galwais ar y Canghellor Alistair Darling i dorri’r gyfradd Treth ar Werth ar atgyweirio tai o 17.5% i 5%. Mae rhesymau cryf o blaid gwneud hyn. Yn amlwg, byddai’n lleihau’r gost o drwsio tai sâl gan y byddai llafur a deunyddiau cymaint yn rhatach. Yn aml dyma’r unig ffordd i bobl ifainc gael troedle ar yr ysgol dai.

Byddai hefyd yn gymorth sylweddol i’r diwydiant adeiladu. Dydd Mawrth diwethaf clywsom am gwmni adeiladu arall yn y Gogledd Ddwyrain yn mynd i ddwylo’r derbynnydd gan beryglu 320 o swyddi.

Mae gennym yng Nghymru fwy o lawer o dai sâl eu cyflwr o gymharu a gwledydd eraill. Felly ein hangen ni ydy trwsio. A’n baich, yn anffodus ydy talu treth o 17.5% ar bob bricsen, pob hoelen a phob awr o lafur.

Yn Ne Nwyrain Lloegr mae’r llywodraeth yn bwriadu adeiladu cannoedd o filoedd o dai newydd. Prin bod rhaid i mi ddweud nad oes Treth ar Werth ar adeiladu o’r newydd.

O’r diwedd mae’r llywodraeth wedi cytuno i godi’r targed ar gyfer lleihau nwyon ty gwydr i 80% erbyn 2050, hyn i gymharu â’r 60% blaenorol. Chefais i erioed gynifer o lythyrau, cardiau post, e-byst ac ymweliadau â’m cymorthfa ar unrhyw bwnc arall, nid yn unig gan gefnogwyr yr ymgyrchoedd amgylcheddol arferol ond hefyd rhai Cymorth Cristnogol a nifer o fudiadau eraill.

Hefyd, yng Nghymru, mae cytundeb Cymru’n Un yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i leihau’r nwyon niweidiol o 3% pob blwyddyn o 2011 ymlaen. Ar ben hyn, dydd Mawrth cyhoeddwyd y bwriad o gynnwys nwyon o longau ac awyrennau yn y targed. Wythnos gwas newydd felly i Ed Miliband yr Ysgrifennydd Gwladol Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae traddodiad yn y Ty fod y sawl sy’n siarad wedi araith forwynol yn canmol ymdrech yr aelod newydd.* Fi siaradodd nesaf wedi araith gyntaf Ed Miliband yn 2005. Doedd dim anhawster canmol araith dda. Ond hefyd nodais (yn y ffordd Gymreig) pwy oedd o go iawn, sef mab i Ralph a brawd i David. Hawdd felly hefyd oedd darogan dyfodol llewyrchus iddo. Ond, och a gwae, ni feddyliais roi £5 arno yn y bwci. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae o’n aelod o’r Cabinet ac yn ysgrifennydd gwladol ar adran bwysig, newydd sbon. Ia, och a gwae.

( *Biti garw na ddaru’r AS Llafur o Gymru a ddilynodd araith forwynol Dai Davies AS annibynnol Blaenau Gwent lynu â’r traddodiad. ‘I will forgo that pleasure’ oedd ei eiriau di-ras wedi araith olynydd Nye Bevan, Michael Foot, Llew Smith a Peter Law.)