Thursday, October 30, 2008

Yr wythnos hon galwais ar y Canghellor Alistair Darling i dorri’r gyfradd Treth ar Werth ar atgyweirio tai o 17.5% i 5%. Mae rhesymau cryf o blaid gwneud hyn. Yn amlwg, byddai’n lleihau’r gost o drwsio tai sâl gan y byddai llafur a deunyddiau cymaint yn rhatach. Yn aml dyma’r unig ffordd i bobl ifainc gael troedle ar yr ysgol dai.

Byddai hefyd yn gymorth sylweddol i’r diwydiant adeiladu. Dydd Mawrth diwethaf clywsom am gwmni adeiladu arall yn y Gogledd Ddwyrain yn mynd i ddwylo’r derbynnydd gan beryglu 320 o swyddi.

Mae gennym yng Nghymru fwy o lawer o dai sâl eu cyflwr o gymharu a gwledydd eraill. Felly ein hangen ni ydy trwsio. A’n baich, yn anffodus ydy talu treth o 17.5% ar bob bricsen, pob hoelen a phob awr o lafur.

Yn Ne Nwyrain Lloegr mae’r llywodraeth yn bwriadu adeiladu cannoedd o filoedd o dai newydd. Prin bod rhaid i mi ddweud nad oes Treth ar Werth ar adeiladu o’r newydd.

O’r diwedd mae’r llywodraeth wedi cytuno i godi’r targed ar gyfer lleihau nwyon ty gwydr i 80% erbyn 2050, hyn i gymharu â’r 60% blaenorol. Chefais i erioed gynifer o lythyrau, cardiau post, e-byst ac ymweliadau â’m cymorthfa ar unrhyw bwnc arall, nid yn unig gan gefnogwyr yr ymgyrchoedd amgylcheddol arferol ond hefyd rhai Cymorth Cristnogol a nifer o fudiadau eraill.

Hefyd, yng Nghymru, mae cytundeb Cymru’n Un yn ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad i leihau’r nwyon niweidiol o 3% pob blwyddyn o 2011 ymlaen. Ar ben hyn, dydd Mawrth cyhoeddwyd y bwriad o gynnwys nwyon o longau ac awyrennau yn y targed. Wythnos gwas newydd felly i Ed Miliband yr Ysgrifennydd Gwladol Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae traddodiad yn y Ty fod y sawl sy’n siarad wedi araith forwynol yn canmol ymdrech yr aelod newydd.* Fi siaradodd nesaf wedi araith gyntaf Ed Miliband yn 2005. Doedd dim anhawster canmol araith dda. Ond hefyd nodais (yn y ffordd Gymreig) pwy oedd o go iawn, sef mab i Ralph a brawd i David. Hawdd felly hefyd oedd darogan dyfodol llewyrchus iddo. Ond, och a gwae, ni feddyliais roi £5 arno yn y bwci. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae o’n aelod o’r Cabinet ac yn ysgrifennydd gwladol ar adran bwysig, newydd sbon. Ia, och a gwae.

( *Biti garw na ddaru’r AS Llafur o Gymru a ddilynodd araith forwynol Dai Davies AS annibynnol Blaenau Gwent lynu â’r traddodiad. ‘I will forgo that pleasure’ oedd ei eiriau di-ras wedi araith olynydd Nye Bevan, Michael Foot, Llew Smith a Peter Law.)

No comments: