Thursday, October 9, 2008

Y Tŷ Mawr o'r Tu Mewn*

Treuliais y diwrnodiau cyntaf yma yn ôl yn San Steffan yn bod yn ofnadwy o neis yn llongyfarch amryfal ASau Llafur. A does dim rhyfedd debyg nac oes, gan fy mod yn hen foi trybeilig o glen.

Ond ‘digwyddiadau’ fel ’tae, nid natur yn unig, sydd i gyfri am ymddygiad braidd yn anghyffredin ar goridorau’r Palas. A beth yw’r ‘digwyddiadau’ eithriadol yma tybed? Wel llun newydd y llywodraeth wrth gwrs, a dyrchafiad nifer o Gymru Llafurol i’w hiselfannau.

’Runig beth, a sylwoch chi fel finnau fod y dyrchafedig rai, Wayne a Chris, Mark ac Ian yn tueddu i rannu’r un weledigaeth o ran datganoli a’r Ysgrifennydd Gwladol Paul Murphy a’i gyfaill mynwesol, y cyn Is-ysgrifennydd Gwladol Don Touhig?

Cyd ddigwyddiad llwyr hefyd yw fod y datganolglen Huw Iranca wedi ei symud wysg ei ochr o Swyddfa Cymru i DEFRA. Does gan DEFRA na’i gweinidogion fawr o ddim i’w wneud yn uniongyrchol hefo gwarchod a hybu amaeth yng Nghymru fach bellach. Elin Jôs sydd bia’r clod hwnnw.

Felly, ai lloches cyn storom neu sgwd o’r neilltu ydi hyn i Huw tybed? Pwy a wyr. Ond gwn beth oedd barn Cledwyn Hughes pan gafodd o ei symud i fod yn Ysgrifennydd Gwladol Amaeth, gan wneud lle cyfleus i’r gwenwynig George Thomas fod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar drothwy’r Arwisgiad.


Ysgrifennodd y Gwir Anrhydeddus Peter Hain Aelod Seneddol Castell Nedd ddoe at Gomisiwn Syr Emyr Jones Parry, a bu cystal a rhannu ei farn ar ddyfodol datganoli gyda llu o feidrolion eraill, gan gynnwys eich gohebydd distadl.

Mae llawer i gnoi cil arno yn y llythyr, a megis dechrau a wnaf yma. Noda Mr Hain ei gefnogaeth oesol a diffuant i ddatganoli. Ond hefyd dywed mai colli fyddai’r hanes pe byddem yn cynnal refferendwm ar ymestyn grym y Cynulliad cyn 2011. Meddai,

'Without a significant shift in public opinion, it is very clear to me that a referendum before 2011 would be lost. '

Dywed hefyd fod mwyafrif llethol o aelodau Llafur a phleidleiswyr Llafur yn erbyn yr hyn a alwa yn refferendwn cynnar.

Rhydd i bawb ei farn. Ond wn i ddim sut y gall Mr Hain fod mor hynod o bendant am rhywbeth sydd efallai tair blynedd hir i ffwrdd, a hynny pan fo’r arolygon barn ar hyn o bryd yn dangos mwyafrif bach o blaid.

Mae proffwydi’r polau piniwn fel arfer yn nodi maint a lleoliad eu sampl. Mwy na hynny, byddant yn cydnabod mai pôl ydi pôl, ond bod pleidlais yn bleidlais. Ond tydi Mr Hain ddim yn datgelu ei ffynhonnellau, na chwaith yn trafod sut i arwain na hyd yn oed ennill yr ymgyrch o blaid.

Yn hytrach a ymlaen, yn annoeth a phleidiol yn fy marn i, i gollfarnu y rhai

‘…who wish to contrive political ambushes for partisan purposes against Welsh Labour - and there has been evidence of such manoeuvres from Plaid and Tory politicians alike…’

Mae’r llythyr yn fwy na datganiad syml o farn. Mae’n siwr o godi muriau, yn siwr o ddylanwadu ar y ddadl, yn siwr o galonogi’r rhai hynny sydd yn erbyn pwerau llawn i’n Cynulliad a digalonni pawb arall. Mae hyn heb son am geisio codi crachen rhaniadau gwleidyddol posibl rhwng partneriaid Llywodraeth Cymru’n Un.

Mae i gyn Ysgrifennyddion Gwladol eu lle, yn rhannu ffrwyth eu profiad a rhoi arweiniad. A dyna fy mhryder am y llythyr. Gallasai Peter Hain fod â lle allweddol ac anrhydeddus yn yr ymgyrch o blaid, fel yn wir y bu ganddo yn 1997. Gallai arwain. Ond ysywaeth rwy’n ofni ei fod o wedi sicrhau un o ddau le arall iddo ei hun, naill ai ar ochr y gwrthwynebwyr, neu, yn waeth yn y pen draw, ar ymylon y ddadl.


* Enw fy ngholofn gynt yr yr ymadawedig Herald Cymraeg. Tudur, golygydd rhadlon yr Herald a fathodd y teitl. Cofion gorau ato.

2 comments:

Un o Eryri said...

Llongyfarchiadau ar y blog. Mae hyn yn ffordd bwysig o roi newyddion cywir ymlaen i etholwyr ond credaf y dylet wneud hyn yn ddwyieithog

monami said...

Mae'r ffug frwydr rhwng cenedlaetholdeb a sosialeth yn dechrau edrych yn hynod o hen ffasiwn. Mae Plaid Cymru wedi symud yn bell o'r 'Blaid Bach' a sefydlwyd yn 1920au'r ganrif gynt ac yn sicr nid oes cysylltiad rhwng yr aelodau seneddol Llafur presennol a breuddwyd Keir Hardie ac hyd yn oed Aneurin Bevan. Mae Llywodraeth Lafur San Steffan yn clodfori safiad llefydd fel Georgia a'r Wcran a Slofenia ond yn dal i ystyried Cymru a'r Alban fel niwsans sy'n cynhyrfu gormod ar y dyfroedd gwleidyddol. Os bydd yr 'ofn cenedlaetholdeb' hwn yn parhau yna bydd rhaid i bob aelod seneddol Llafur o Gymru ddangos eu hochr a neidio i'r gwely efo'r Toriaid yn yr ymgyrch 'Na' a sefydlwyd yn ddiweddar.Nid mater o eistedd ar y ffens yw hyn bellach.